Ein stori ni…
Pedair cenhedlaeth, un fferm, ac angerdd dros lefrith lleol.
Mae Llefrith Cybi yn fenter deuluol sy’n cael ei redeg gan Mei, Rhodri a’u tad Gwyn, gyda’r diweddar Taid Plas, yn ganolog i’r daith ers y dechrau yn y 1960au.
Mae ein fferm, Plas, wedi’i lleoli yn Pont Rhydybont, Rhoscolyn mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, lle mae ein buches o gwartheg godro Friesan Prydeinig yn pori tu allan y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Rydym yn godro ddwywaith y dydd, gyda’r gwartheg yn cynhyrchu llefrith maethlon mewn ffordd naturiol, gynaliadwy.
Traddodiad sy’n parhau gyda syniadau ffres.
Fe wnaethon ni lansio Llefrith Cybi yn 2023 fel ffordd o gysylltu’n uniongyrchol gyda’n cymuned, drwy werthu’n llefrith ffres, heb ddim milltiroedd bwyd na phrosesu gormodol, a hynny o’n peiriant gwerthu wrth giât y fferm.
Yn 2025, rydym wedi datblygu’n bellach, gyda’n hufen iâ ein hunain, ysgytlaethau amrywiol a chynlluniau ar gyfer ardal wylio yn y parlwr godro. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi busnesau lleol bob cam o’r ffordd.
Rydyn ni’n mwynhau’r hyn ‘da ni’n ei wneud, ac yn falch o rannu hynny gyda chi.