Cynnyrch
Llefrith ffres ac ysgytlaeth
Mae ein llefrith ffres, sydd heb ei homogonineiddio ar gael yn y peiriant gwerthu yn ddyddiol. Mae’n cael ei basteureiddio’n ysgafn ar y fferm ac yn cyrraedd y peiriant o fewn 3 awr i’w odro. Mor ffres a hynny!
Rydym yn gwerthu’n uniongyrchol i chi o giât y fferm – fel yn yr hen ddyddiau, ond gyda naws ychydig mwy cyfoes!
Rydym hefyd yn cynnig ysgytlaethau amrywiol, gyda’r blasau’n newid bob wythnos. Ydych chi wedi trio fanila, caramel hallt, diliau mêl, ceirios du, banoffi neu cappuccino? Dewch i flasu a darganfod eich ffefryn…
Mae ein llefrith yn cael ei werthu mewn poteli gwydr y gellir eu hailddefnyddio (neu gallwch ddod â’ch potel eich hun).
Hufen iâ
Rydym yn cynhyrchu hufen iâ blasus ar y fferm, gan ddefnyddio’n llefrith ffres o’n buches ein hunain.
Os gwelwch chi’r trelar hufen iâ Llefrith Cybi mewn digwyddiadau lleol, dewch draw i ddweud helo!
Bydd blasau clasurol a tymhorol arbennig yn aros amdanoch…
Nwyddau Llefrith Cybi
Galwch heibio i weld pa nwyddau sydd ar gael yn y peiriant gwerthu.
O’n poteli dŵr ailddefnyddiadwy i dorri syched pan fo’r haul yn tywynnu, i’n hetiau beanie cynnes – mae gennym ddigon o opsiynau waeth beth fo’r tywydd!
Cefnogi cynhyrchwyr lleol
Rydym yn cefnogi busnesau lleol, ac y mae cynnyrch amrywiol ar gael yn ein peiriannnau. Beth am Wyau Môn, Cyffug Llanddwyn, siocled Mr Holt’s o Langefni, Cacen Island Bakes neu ein mêl lleol? Ac ar nos Iau… That Burger Guy!
Rydym yn falch o gyflenwi’r lleoliadau canlynol gyda’n llaeth: Catch 22, The Stores yn Fae Trearddur, The Bread Basket, Relish Café & Takeaway, The Boathouse a Reuben’s Caergybi.
