CROESO I LLEFRITH CYBI
O’r fuwch i’ch llaw - cynnyrch ffres lleol o’r fferm yn syth atoch chi.
Mae Llefrith Cybi yn cael ei gynhyrchu gyda balchder ar ein fferm deuluol, Plas.
Gyda’n buches o wartheg godro yn pori mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, rydym yn cynhyrchu llefrith maethlon mewn ffordd gynaliadwy.
Ysgytlaeth
•
Llefrith
•
Hufen iâ
•
Ysgytlaeth • Llefrith • Hufen iâ •
Llefrith ffres ac ysgytlaeth
Mae ein llefrith ffres a’n ysgytlaeth blasus ar gael yn ddyddiol o'r peiriant gwerthu hunanwasanaeth wrth giât y fferm. Mae’n cyrraedd yno o fewn tair awr i’w odro – dyna ni be ‘di ffres go iawn!

I DDOD
YN FUAN
Rydym wrthi’n cynllunio ardal wylio ar gyfer ein parlwr godro newydd, fel y gallwch wylio Mei, Rhodri a Gwyn yn godro’n fuan. Pa ffordd well i ddeall o ble mae ein bwyd yn dod, nac i weld y cyfan gyda’ch llygaid ein hun?