CROESO I LLEFRITH CYBI

Poteli llefrith lleol ffres gan Llefrith Cybi

O’r fuwch i’ch llaw - cynnyrch ffres lleol o’r fferm yn syth atoch chi.

Mae Llefrith Cybi yn cael ei gynhyrchu gyda balchder ar ein fferm deuluol, Plas.   

Gyda’n buches o wartheg godro yn pori mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, rydym yn cynhyrchu llefrith maethlon mewn ffordd gynaliadwy.  

Ysgytlaeth

Llefrith

Hufen iâ

Ysgytlaeth • Llefrith • Hufen iâ •

Llefrith ffres ac ysgytlaeth

Mae ein llefrith ffres a’n ysgytlaeth blasus ar gael yn ddyddiol o'r peiriant gwerthu hunanwasanaeth wrth giât y fferm. Mae’n cyrraedd yno o fewn tair awr i’w odro – dyna ni be ‘di ffres go iawn!

I DDOD

YN FUAN

Rydym wrthi’n cynllunio ardal wylio ar gyfer ein parlwr godro newydd, fel y gallwch wylio Mei, Rhodri a Gwyn yn godro’n fuan.  Pa ffordd well i ddeall o ble mae ein bwyd yn dod, nac i weld y cyfan gyda’ch llygaid ein hun?